Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth San Steffan wedi dweud bod angen i Gymru dalu’n llawn am gleifion sy’n derbyn triniaeth yn Lloegr.
“Pe bai arian yn ddyledus i Wasanaeth Iechyd yn Lloegr, mae angen ei hawlio ‘nôl,” meddai Andy Burnham wrth bapur newydd y Daily Post.
Yn Lloegr, mae Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd yn derbyn tâl am bob claf y maen nhw’n ei drin.
Ond yng Nghymru, mae’r tâl yn cael ei wneud fesul bloc o gleifion, a’r swm sy’n cael ei dalu fesul claf yn llai.
Pan mae claf o Gymru’n croesi’r ffin am driniaeth, y swm isa’ ar gyfradd Cymru sy’n cael ei dalu, ac felly dyw’r ymddiriedolaethau yn Lloegr ddim yn derbyn cymaint o dâl.
Mae’r ysbytai yn Lloegr am i Gymru dalu’r gwahaniaeth er mwyn eu bod nhw’n cael yr incwm maen nhw’n teimlo sy’n ddyledus iddyn nhw.
(Llun: Ysbyty Brenhinol Gwent)