Clwb Pêl Droed Dinas Bangor yw gobaith olaf Cymru o sicrhau ychydig o lwyddiant yn Ewrop, wrth iddyn nhw wynebu FC Honka yn y Ffindir heno.
Gyda Llanelli a’r Sentiau Newydd eisoes allan o Ewrop, a’r Rhyl wedi colli adref o 4-0 yn erbyn Partizan, mae wedi bod yn ymgais siomedig arall gan glybiau Cymru yng nghystadlaethau Ewrop.
Mae Bangor, wnaeth ennill Cwpan Cymru’r tymor diwethaf, yn cystadlu yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa.
Ond bydd curo’r gwrthwynebwyr yn dasg anodd. Fe wnaeth FC Honka orffen eu tymor diwethaf yn ail, ac maen nhw’n dîm llawn amser, gyda chwaraewyr rhyngwladol.
Mantais amlwg arall sydd gan y clwb o’r Ffindir yw eu bod nhw ar ganol eu tymor, tra fod Bangor newydd ail ddechrau ymarfer ar gyfer y tymor sydd o’u blaenau.
Ond mae rheolwr Bangor, Neville Powell, wedi dweud y bydd y tîm yn brwydro heno i sicrhau y bydd yr ail gymal ‘nôl yng Nghymru yn un cystadleuol:
“Rydym am weithio’n galed i geisio cael canlyniad a fyddai’n rhoi hwb i’r clwb a hefyd i Uwch Gynghrair Cymru”, meddai Powell.