Mae rheolwyr ffatrioedd dur Corus wedi datgan y bydd eu tâl bonws blynyddol i weithwyr yn dod i ben eleni, er mwyn arbed arian.

I filoedd o staff Corus yng Nghymru bydd hyn yn golygu colli rhyw £2,000 y flwyddyn yr un.

Yn ogystal â hynny datgelodd perchnogion Corus, Tata Steel, heddiw nad oedden nhw wedi diystyru torri mwy o swyddi.

Dywedodd Corus ddechrau’r mis y bydden nhw’n torri 149 o swyddi yn adrannau gweinyddol gweithfeydd dur Port Talbot a Llanwern, ger Casnewydd, a 366 yn Lloegr.

Roedd hynny ar ben torri 2,000 ledled Prydain fis diwethaf, a 2,500 ddechrau’r flwyddyn.