Gallai clwb dawnsio erotig gyda pholion a chabanau preifat agor ei ddrysau yng nghanol Abertawe cyn hir.
Yn ôl papur newydd y South Wales Evening Post, mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi derbyn cais gan gwmni Fantasy Lounge Ltd i droi hen warws ‘The Strand’ yn glwb dawnsio erotig.
Yn ôl y papur, os caiff y cynlluniau eu cymeradwyo, bydd llwyfan gyda pholion yn cael ei osod ar lawr cyntaf yr adeilad dau lawr.
Bydd tri podiwm dawnsio, llwyfan dawnsio noeth, a bar ynghyd â nifer o gabannau ar wahan i’r cwsmeriaid gael mwynhau dawnsfeydd preifat.
Mae Fantasy Lounge Ltd eisoes yn rhedeg cwmni tebyg ar Stryd y Santes Fair, Caerdydd.
Gwrthododd Fantasy Lounge Ltd drafod y cynlluniau gyda Golwg360. Dywedodd llefarydd ar eu rhan nad oedden nhw’n dymuno rhoi datganiad ar y mater.