Mae Cyngor Môn yn ystyried diffodd goleuadau stryd yr ynys yn y gobaith o arbed £57,000 y flwyddyn.

Mae cost goleuadau stryd ar yn ynys yn £289,000 y flwyddyn ar hyn o bryd.

Mae swyddogion eisoes wedi cymeradwyo cynllun i ddiffodd y goleuadau rhwng 12.30am a 5.30am.

Gallai hynny arbed £57,000 flwyddyn i’r cyngor. Bydd y cynllun yn mynd ger bron pennaeth y cyngor Ddydd Mawrth nesaf.

Cafodd y cyngor feirniadaeth hallt mewn adroddiad gan Brif Archwilydd Cymru ddoe am beidio ystyried ffyrdd o “arbed arian ar adeg o gyfyngu ariannol”.