Cafodd Trevor Phillips ei benodi neithiwr am ail gyfnod o dair blynedd yn Gadeirydd Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Un o’i dasgau fydd arwain proses o ail-wampio’r Comisiwn gyda llai o gomisiynwyr ar ei Fwrdd.
Yn ôl y Gwenidog Merched a Chydraddoldeb, Harriet Harman, fe fydd y Comisiwn yn recriwtio aelodau newydd a fyddai’n parhau i weithio ar broblemau fel y bwlch mewn tâl rhwng dynion a merched.
Blaenoriaeth arall fydd sicrhau fod awdurdodau lleol yn cadw at eu cyfrifoldeb i sicrhau tegwch a chyfle cyfartal.