Mae dadl Gordon Brown fod digon o hofrenyddion ar gael i luoedd arfog Prydain yn Afghanistan wedi cael ei wfftio heddiw wedi adroddiad gan bwyllgor dylanwadol wrthddweud honiadau’r Prif Weinidog.

Fe wnaeth pwyllgor amddiffyn Tŷ’r Cyffredin, sy’n cynnwys aelodau o wahanol bleidiau, ddweud fod prinder hofrenyddion yn tanseilio diogelwch milwyr ac ymdrechion lluoedd Prydain yn Afghanistan.

Yn ôl y pwyllgor, mae’r prinder hofrenyddion yn golygu fod milwyr yn dibynnu llawer gormod ar gerbydau i’w cludo ar y tir, a’u bod nhw’n wynebu’r perygl o fomiau sydd wedi eu gosod wrth ymyl y ffordd.

Yn ogystal, mae’r prinder yn cyfyngu ar allu’r milwyr i symud yn sydyn a saff ac yn arafu symudiadau tactegol o amgylch y wlad.

Mae’r adroddiad yn dweud y dylai’r Weinyddiaeth Amddiffyn gynyddu’r nifer o hofrenyddion sydd ar gael yn Afghanistan, a hyfforddi mwy o bobol i’w criwio nhw.

Dilyn marwolaethau

Lluniwyd yr adroddiad yn dilyn marwolaeth 15 o filwyr Prydain o fewn 10 diwrnod yn Afghanistan ddechrau mis Gorffennaf.

Yn dilyn y marwolaethau tynnodd y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Toriaid sylw at y diffyg mewn adnoddau sydd ar gael i filwyr yno – yn benodol, diffyg hofrenyddion.

Ond dyw’r adroddiad ddim yn awgrymu mai prinder hofrenyddion oedd yn uniongyrchol gyfrifol am achosi marwolaethau milwyr Prydain yn Afghanistan.

Dywedodd Gordon Brown na fyddai hofrenyddion wedi achub bywydau y 15 o filwyr fu farw.

Hofrennydd Americanaidd

Un o’r dadleuon mwyaf amlwg sy’n cael ei ddefnyddio i ddangos nad oes digon o hofrenyddion yn Afghanistan yw’r ffaith fod Pennaeth Byddin Prydain, y Cadfridog Sir Richard Dannatt, wedi gorfod defnyddio un o hofrenyddion Black Hawk yr Unol Daleithiau wrth ymweld â’r wlad, gan nad oedd un ar gael gan luoedd Prydain.