Mae Caerdydd wedi ennill ei gêm gyntaf o’u taith ym Mhortiwgal, gyda buddugoliaeth 1-0 yn erbyn clwb Fatima.
Fe beniodd Maros Klimpl y bêl i gefn y rhwyd ar ôl croesiad o’r asgell gan Peter Wittingham, gyda saith munud o’r gêm yn weddill.
Ond wnaeth hynny ddim lot o les i obeithion Klimpl o gael cytundeb parhaol gyda’r Adar Glas – cadarnhaodd y clwb heddiw ei fod o wedi ei rhyddhau.
Clod i Wittingham
Serch hynny roedd y rheolwr, Dave Jones, yn llawn clod i Wittingham am greu’r gôl ac am ei berfformiad yn gyffredinol.
Chwaraeodd Wittingham y 90 munud ynghyd â David Marshall, Mark Hudson, Whittingham a Jay Bothroyd.
Mae Dave Jones wedi dweud mai bwriad y ddwy gêm ym Mhortiwgal yw gwella ffitrwydd y chwaraewyr.
Defnyddiodd Caerdydd 18 o chwaraewyr allan o garfan o 22 yn ystod gêm.