Mae cyn-chwaraewr QPR, Jordi Lopez, wedi cytuno i ymuno gydag Abertawe.

Bydd yr Elyrch yn gobeithio cwblhau’r ddêl mewn pryd i’r Sbaenwr gael ymuno gyda gweddill y garfan ar eu taith o amgylch ei wlad enedigol yr wythnos nesaf.

Mae Lopez wedi chwarae i Barcelona, Real Madrid a Sevilla, lle enillodd y Cwpan Uefa.
Roedd yn chwarae i Real Mallorca y llynedd, ond cafodd ei ryddhau yng nghanol y tymor diwethaf.

Arwyddodd rheolwr newydd Abertawe, Paulo Sousa, e’ i QPR ar gytundeb tri mis.

Ond ers i Sousa gael ei benodi’n rheolwr Abertawe, roedd arwyddo Lopez yn un o’i flaenoriaethau.

Mae disgwyl i’r Sbaenwr gyrraedd Abertawe dros y penwythnos i arwyddo’n swyddogol ar gytundeb dwy flynedd.