Mae dyn 62 oed wedi cael ei arestio ar ôl iddo saethu uwchben criw o bobol oedd yn ymweld â chylch cnwd (crop circle) 300 troedfedd o led, sydd wedi ymddangos mewn cae yn sir Wiltshire.

Yn ôl adroddiadau fe wnaeth y dyn, a oedd wedi bod yn cuddio mewn pabell yng nghanol y cylch cnwd, neidio allan, a saethu dros bennau’r ymwelwyr, am tua 2pm ddydd Llun.

Dihangodd yr ymwelwyr – oedd yn ymweld o Norwy – a galw’r heddlu. Anfonwyd swyddogion arfog a hofrennydd i’r cylch cnwd.

Yn ôl heddlu Wiltshire, mae’r dyn, sy’n dod o Swydd Gaerhirfryn, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra fod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae fferm arall yn yr ardal wedi dioddef gwerth miloedd o bunnoedd o golledion, ar ôl i gylch cnwd 500 troedfedd o led ymddangos mewn cae yn 2007.