Mae penderfyniad awdurdod addysg Sir Gâr i lythyru â rhieni ardal Dinefwr, wedi’i feirniadu gan gynghorwyr Plaid Cymru a’r mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg.

Roedd y llythyron at rieni a phlant oed cynradd yn ardal Dinefwr yn holi am eu dewis o gyfrwng iaith addysg y plant fel rhan o ymgynghoriad i ad-drefnu addysg uwchradd yn yr ardal.

Ond mae natur y llythyr a’r modd y cafodd ei ddosbarthu wedi codi gwrychyn ac un cynghorydd yn herio’r penderfyniad yn gyfreithiol.

‘Brawddeg yn unig o esboniad’

“Rydyn ni’n siomedig iawn nad yw’r llythyr yn cynnig esboniad digon manwl o’r opsiynau maen nhw’n gofyn i’r rhieni cynradd eu hystyried,” meddai Peter Hughes Griffiths (dde), arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gâr.

“Gofynnir i’r rhieni ddewis pa gategori iaith maen nhw’n dymuno ar gyfer eu plant – Categori 1, Categori 2a a Chategori 2b.

“Ond brawddeg yn unig o esboniad sydd yn y llythyr i ddweud beth yw’r gwahaniaeth rhwng pob categori.

“Mae’n ddigon hawdd drysu rhwng beth yw ystyr yr holl gategorïau.”

Ond mae’r Cyngor Sir yn ffyddiog bod yn ffyddiog bod yr esboniad o’r categorïau gwahanol sydd ar gael yn eglur ac yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad.

Ar hyn o bryd, does dim un ysgol Categori 1, sy’n cynnig pob gwers drwy gyfrwng y Gymraeg, yn yr ardal. Ysgol Categori 2a yw Maes yr Yrfa ac mae Ysgol Gyfun Dyffryn Aman a Tre-Gib Llandeilo yn ysgolion Categori 2b.

Cewch ddarllen gweddill yr erthygl yn Golwg, Gorffennaf 9