Wrth i sylw’r byd seiclo droi at y Tour De France, mae clwb seiclo Bynea ar gyrion Llanelli, un o’r hynna’ yng Nghymru, yn parhau â thraddodiad a ddechreuodd cyn yr Ail Ryfel Byd.
Sefydlwyd y clwb yn 1937, ac yn y blynyddoedd cynnar, seiclo allan ar y ffyrdd er mwyn hamddena yn bennaf oedd y pwyslais.
Pan roedd y clwb yn llai nag ugain oed, ymunodd gŵr ifanc o Langennech.
Heddiw Tom Samuel yw llywydd y clwb.
“Dechreuais i yn 1956,” cofia Tom Samuel. “Cyn seiclo roeddwn i yn chwarae pêl droed. Ond fel mae’n digwydd dim ond rhyw dri neu bedwar ohono ni oedd yn cario gweddill y tîm ac yn y diwedd ces i lond bola o hwnna a gadael.
“Roedd y rheswm dros ddewis seiclo’n amlwg – doedd e ddim yn team sport! Rhywbeth i’r unigolyn, dyna’r apêl!”
Mae Tom Samuel wedi bod yn cystadlu ar ei feic ers y dyddiau cynnar. Ac yntau nawr yn ei saith degau, mae wedi gorfod rhoi’r gorau i wneud hynny. Ond nid oherwydd ei oed.
“Ces i ddamwain yn gynharach eleni,” eglura. “Roeddwn yn ymarfer ar gyfer ras ac fe aeth cerbyd mewn i fy nghefn. Des i oddi ar y beic a thorri hwmerws. Felly gorffwys pia hi am damed bach. Ond nôl fydda i!”
Seren seiclo’r gorllewin
Y pencampwr mwyaf diweddar yw Rhys Gravelle o Borth Tywyn. Pencampwr dan 18 Cymru.
Enillodd ei gategori ym Mhencampwriaethau Rasio Ffordd Cymru yng Nghrucywel ym Mhowys, lle bu’n rhaid iddo rasio dros gwrs 80 milltir o amgylch Bannau Brycheiniog.
“Ni’n browd iawn o Rhys, fe yw’n seren ni!” meddai Tom Samuel.
“Mae fe wedi neud yn arbennig ac yn anlwcus iawn i beidio ag ennill Pencampwriaeth Prydain yr wythnos ddiwethaf.”
Mae Rhys Gravelle yn ddisgybl yn Ysgol y Strade yn Llanelli ac mae wedi seiclo yn y gwaed.
“Mae ei dad John yn y clwb hefyd, ac wedi bod ers blynyddoedd,” meddai Tom Samuel.
“Ond nawr ma’ Rhys wedi neud yn well nag e a mynd reit i’r top. Ac nid fe yw’r unig dalent ifanc ‘chwaith. Mae Hefin Price o Drimsaran yn ifancach na fe ac yn enw ar gyfer y dyfodol. Ma’ fe’n dechrau profi llwyddiant yn barod ac roedd e’ yn yr un ras â Rhys yng Ngruchywel.”
Dyna’r newid mawr sydd wedi digwydd i glwb Bynea dros y blynyddoedd. Llai o bwyslais ar ddigwyddiadau teulu a mwy o gystadlu.
“Ma’ natur y clwb wedi newid dros y blynyddoedd diwetha,” meddai Phil Jones, aelod o bwyllgor clwb seiclo’r Bynea.
“I ddechrau, mae cymaint o ddiddordeb yn seiclo nawr ma’ hwnna’n beth da iawn ac yn gadarnhaol.
“Ond dydyn ni ddim yn gallu cael yr elfen hamdden yn y clwb nawr fel o’r blaen. Ma’ cymaint o draffig ar yr hewl does dim diben trefnu diwrnodau i’r teulu a phawb mâs gyda’i gilydd ar eu beiciau.
“O ganlyniad, y cystadlu sy’n digwydd fwyaf nawr. Chi’n gallu gweld hynny o’r ffordd ma’n gwisg ni wedi newid o’r 30au a’r 60au i heddi!”
Cewch ddarllen y stori’n llawn yn Golwg, Gorffennaf 9.