Yn ôl cyn warden gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, “pleser” iddo oedd cael cyfle i dynnu lluniau o bobol a’u ceffylau.
Erbyn hyn mae Bruce Cardwell wedi’i cyhoeddi casgliad o’r lluniau y mae wedi’u tynnu ledled Cymru ers 1984.
Daw’r ffotograffydd yn wreiddiol o Belfast yng ngogledd Iwerddon ond mae e’n “teimlo yn fwy cartrefol” yng Nghymru erbyn hyn.
Dechreuodd ar ei waith yn warden gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngheredigion yn 1989 a bu yn y swydd nes ymddeol tair blynedd yn ôl.
Trwy fynd o gwmpas ffermydd, sioeau amaethyddol a ffeiriau cobiau fel Ffair y Dalis yn Llanbedr Pont Steffan, daeth yn ffrindiau gyda phobol Sir Aberteifi a dysgu eu tafodiaith.
‘Cyfle i fod mas’
“Roedd yn gyfle i fod mas yng nghefn gwlad,” meddai’r ffotograffydd, “yn yr awyr iach, gyda phlanhigion, anifeiliaid a’r bobol wrth gwrs.
“O’n i’n lwcus bod tipyn bach o Gymraeg gyda fi – roedd yr Ymddiriedolaeth yn meddwl ei fod e’n elfen bwysig i gysylltu gyda’r gymuned leol yng Ngheredigion. Rwy’ wedi cwrdd â lot o ffrindiau newydd.”
Roedd yn gyfrifol am dir sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol trwy’r Sir – fel Penbryn, Mwnt a Mynachdy’r Graig.
Ac yn ystod y cyfnod, roedd e a’i deulu yn byw yn nhŷ’r Ymddiriedolaeth mewn llecyn diarffordd yng Nghaer Llan, ger Eglwys San Tysilio yng Nghwmtydu.
‘Dim whare’
“Doedd dim whare o gwbl,” meddai Bruce Cardwell, sy’n byw yn y Borth ger Aberystwyth ers ymddeol.
“Ro’n i ar alw trwy’r amser. Ro’n i’n gweithio ar ben fy hun gymaint o’r amser a oedd yn eitha’ rhyfedd yn y dechrau. Rhaid bod yn eitha’ annibynnol.”
Ond roedd yn gallu manteisio ar natur grwydrol y swydd i dynnu lluniau o bobol a’u ceffylau.
Roedd yn defnyddio camera ASA400, oedd yn debyg i gamerâu newyddiadurol y cyfnod.
“Roedd e’n bleser i mi,” meddai. “Ro’n i’n cael cyfle i fynd o gwmpas Cymru a chwrdd â phobol ddiddorol. Bob math o geffylau oedd y syniad a phob elfen o’r diddordeb yn y wlad.”
Cael ei gyfareddu gan geffylau
Cyn symud i Gymru, roedd Bruce Cardwell wedi gweithio gyda cheffylau o gwmpas y byd – buodd yn gweithio mewn stablau oedd ym meddiant y bwcis William Hill yn Swydd Efrog, a chafodd ei gyflogi yn Corfu i ofalu am geffylau oedd yn perthyn i filiwnydd.
Treuliodd e a’i wraig flwyddyn yn teithio gorllewin Iwerddon mewn ceffyl a chert hefyd.
Ond Ceredigion, meddai, yw “canol y byd ceffylau yng Nghymru” ac mae’r Cobiau Cymreig yn amlwg yn y lluniau.
“Maen nhw wedi’u creu yn arbennig i fod yn addas i’r bywyd yng Ngheredigion,” meddai. “Mae e’n geffyl sy’n gallu merlota, tynnu cart, gwaith ar y fferm – mae’n geffyl i bob gwaith, yn arbennig i’r ardal. Oedd y ffermydd gan fwya’ yn fach, a ddim yn gallu cadw’r ceffylau mawr, drud.”
Mae ei hoff lun o’r llyfr yn gysylltiedig a’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd gyda’r bobol yn eistedd ar ben adlen gan edrych i lawr ar y dyn a’i geffyl.
“Mae’n gwneud rhywbeth rhyfedd â’i law,” meddai Bruce Cardwell. “Mae’n edrych yn eitha’ swreal. O’n i’n ceisio creu amrywiaeth o luniau.
“Mae pobol yn elfen hollbwysig o’r hanes a ffocws y llyfr yw sut mae dyn yn perthyn i’r ceffyl a’r ceffyl i’r dyn – sut mae hanes y ddau yn cydredeg.”
Cewch ddarllen y stori’n llawn yn Golwg, Gorffennaf 9