Er iddo golli dwy ffeinal yn Ewrop, mae John Hartson yn mynnu mai dyma rai o brofiadau bythgofiadwy ei yrfa.

Bellach yn cadw tafarn yn Llansamlet, mae cyn-ymosodwr Cymru yn sylwebu ar gemau rhwng timau Cymru a gweddill Ewrop.

Nos Fawrth nesa’ bydd y John Hartson yn dadansoddi gêm y Rhyl yn erbyn FZ Partizan ar S4/C.

Ac mae’n mynnu bod angen i chwaraewyr y Rhyl sawru pob eiliad o’r profiad a’r wefr o chwarae pêl-droed cyfandirol.

Anlwc

Nôl yn 1995 fe sgoriodd John Hartson unig gôl Arsenal yn erbyn Real Zaragoza o Sbaen, wrth i’r Gunners golli ffeinal y Cup Winners Cup 2-1 i’r tîm o Sbaen.

Cafwyd gôl wyrthiol i ennill y gêm wrth i Mohammed Nayim (cyn-chwaraewr Spurs) sgorio efo mynydd o gic o ganol y cae.

Hwyliodd y bêl dros ben David Seaman i gefn rhwyd gôl y Gunners.

Wyth mlynedd wedyn fe brofodd John Hartson anlwc go-iawn gan anafu ei gefn tra’n chwarae i Celtic.

Fe fethodd gêm derfynol Cwpan UEFA yn 2003 pan gollodd Celtic 3-2 yn erbyn Porto.

Bryd hynny roedd pencampwyr Portugal ar i fyny dan law hyfforddwr ifanc medrus a chyfrwys o’r enw Jose Mourinho.


Balch

Ond er gwaetha’r ddau siom amlwg yma, mae John Hartson yn fwy na balch o fod wedi cael y cyfle i brofi ei hun yn erbyn goreuon y cyfandir.

“Mae’r profiad o chwarae yn Ewrop yn ffantasig,” meddai John Hartson.

“Pan o’n i gydag Arsenal – cefais y fraint o chwarae a sgorio yn rownd derfynol Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop yn erbyn Zaragoza ym Mharis pan o’n i’n 20 oed – ac er i ni golli i gôl anhygoel Nayim ym munud ola amser ychwanegol, roedd e’n brofiad gwych,” meddai’n falch.

Y flwyddyn honno roedd John Hartson wedi ymuno ag Arsenal o Luton Town am £2.5miliwn – y swm uchaf i’w dalu am chwaraewr dan 20 oed ym Mhrydain ar y pryd.

Oherwydd doniau Dennis Bergkamp ag Ian Wright bu’n rhaid i John Hartson adael Arsenal, a chafodd gyfnodau gyda West Ham, Wimbledon a Coventry cyn ymuno gyda Glasgow Celtic a phrofi uchelfannau Ewrop unwaith yn rhagor.


Cewch ddarllen y stori’n llawn yn Golwg, Gorffennaf 9