Sgôr Reform UK a gafodd y sylw i gyd mewn pôl piniwn yr wythnos ddiwetha’ wrth i’r cyfryngau barhau i fawrygu dyn sy’n arwain plaid bersonol sydd heb rithyn o ddemocratiaeth ar ei chyfyl.

Ond roedd yna elfen arall ddiddorol yn yr arolwg oedd yn dangos Reform fymryn ar y blaen i’r Ceidwadwyr: roedd cyfanswm canrannau’r ddwy blaid asgell dde yn gyfartal â chanran y Blaid Lafur.