Bydd sefydlu Grŵp Trawsbleidiol dros Heddwch a Chymod yn y Senedd yn golygu y bydd y materion hynny’n cael eu cadw mewn cof wrth lunio polisïau, yn ôl cadeirydd y pwyllgor newydd.
Yn ôl Mabon ap Gwynfor, sylfaenydd a chadeirydd y pwyllgor, bydd y fforwm yn gyfle i ystyried heddwch a chymod wrth ddatblygu polisïau ymhob maes, gan gynnwys yr economi ac addysg.
Un o’r materion y maen nhw’n ystyried ei drafod yw rôl y lluoedd arfog yn mynd i ysgolion Cymru, meddai Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd.
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Jane Dodds, yr Aelod Ceidwadol Darren Millar, a’r Aelod Llafur Mike Hedges yw’r cynrychiolwyr trawsbleidiol eraill ar y pwyllgor, ac mae’r Academi Heddwch wedi ymgymryd â rôl yr ysgrifennydd.
Nod y pwyllgor ydy gweithio mewn ffordd adeiladol, yn hytrach na beirniadu polisïau, yn ôl Mabon ap Gwynfor wrth siarad â golwg360.
“Does yna ddim fforwm ar hyn o bryd yn y Senedd er mwyn trafod materion yn ymwneud â heddwch a chymod, boed nhw’n faterion rhyngwladol neu’n faterion domestig,” meddai.
“Mae hi’n mynd i fod yn fforwm i dynnu arbenigedd ynghyd i gyflwyno tystiolaeth er mwyn cyfoethogi dealltwriaeth Aelodau’r Senedd o’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru a thu hwnt ynglŷn â materion yn ymwneud â rhyfel a heddwch a chymod.
“Mae’n andros o bwysig oherwydd wrth ein bod ni’n datblygu polisi yng Nghymru, boed yn bolisi ar yr economi neu’n bolisi addysg, polisi mewn unrhyw faes mewn gwirionedd, mae absenoldeb unrhyw ystyriaeth o faterion yn ymwneud â heddwch a chymod yn golygu bod materion o bwys o’r fath ddim yn cael eu hystyried, ac yn wir yn cael eu hanwybyddu, sydd ag effaith bellgyrhaeddol.
“Mi fydd y fforwm yma yn ein gorfodi ni i gadw’r materion yma mewn cof drwy’r amser wrth ein bod ni’n trafod materion yn ymwneud â Chymru.”
‘Cyfrannu’n adeiladol’
Cafodd grŵp trawsbleidiol tebyg ei sefydlu tua deng mlynedd yn ôl, ond doedd hwnnw ddim yn gweithio ar yr un llinellau, yn ôl Mabon ap Gwynfor.
“Mae rhyfel Wcráin yn rhan o’r hyn sydd wedi helpu i alluogi hyn, yn anffodus. Mae pobol yn fwy ymwybodol o faterion yn ymwneud â heddwch,” meddai.
“Ond wedi dweud hynny, nid Wcráin yw’r hyn sydd wedi’i sbarduno fo. Mae o’n fwy o lawer na materion Wcráin yn unig.
“Yn y cyfarfod cyntaf fe ddaru ni drafod rôl addysg a sut mae ysgolion yng Nghymru bellach yn ystyried materion heddwch a chymod.
“Ddaru un aelod godi’r cwestiwn ‘Sut fedrwn ni sicrhau bod pob awdurdod addysg lleol yn llawn ymwybodol o’r ystod o ddeunydd sydd ar gael?’
“Fel pwynt cyntaf rydyn ni wedi cytuno fel grŵp trawsbleidiol y byddwn ni’n cysylltu â phob awdurdod er mwyn tynnu eu sylw nhw at yr ystod o ddeunydd sydd ar gael.
“Cafwyd sôn i ni edrych ar rôl lluoedd arfog yn mynd mewn i’n hysgolion ni, mae hwnnw’n gwestiwn.
“Roedd yna aelod arall wedi sôn am yr angen i edrych ar berthynas yr economi efo materion yn ymwneud â chymod a heddwch.
“Mae yna sawl maes i ni edrych arnyn nhw a chynnal ymholiadau yn eu cylch.”
Wrth ddiolch i’r Academi Heddwch am ymgymryd â’r rôl ysgrifenyddiaeth, dywed Mabon ap Gwynfor fod ganddyn nhw’r cysylltiadau a’r ddealltwriaeth i wthio agenda’r pwyllgor yn ei flaen.
“Y bwriad ydy bod yn grŵp adeiladol sy’n edrych i gyfrannu mewn modd adeiladol at ddatblygu polisi yng Nghymru yn hytrach nag yn feirniadol,” meddai.