Mae Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hiliaeth o fewn y system gyfiawnder.
Yn ystod sesiwn holi’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol yn y Senedd, fe wnaeth y ddwy blaid alw ar Jane Hutt i ymdrin â’r niferoedd uchel o bobol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol mewn carchardai.
Gofynnodd Rhys ab Owen, Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru, pa gamau sy’n cael eu cymryd gan y Llywodraeth.
Fe wnaeth Jane Hutt gydnabod fod angen casglu mwy o ddata am y sefyllfa bresennol.
Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun ‘Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol’ gyda’r nod o greu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030.
Diffyg data cyfredol
Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, am weld data mwy diweddar yn cael ei gasglu i weld faint o bobol sydd â nodweddion gwarchodedig o fewn carchardai Cymru.
“Mae 26% o boblogaeth garchardai Cymru o gefndir lleifafrifol ethnig o gymharu ag 16% o boblogaeth gyfan Cymru,” meddai.
“Mae ein system gyfiawnder yn methu pobol ddu o gefndir lleiafrifoedd ethnig.
“Hoffwn weld mwy o ddata am garchardai Cymru yn enwedig data am boblogaeth carchardai sydd o gefndiroedd gwarchodedig penodol gan gynnwys y rhai o gefndiroedd sy’n siarad Cymraeg a phobol o gefndiroedd LGBTQI.”
Roedd ymchwil gan Dr Robert Jones yn 2019 yn dangos bod nifer anghymesur o gymunedau BAME yn parhau i gael eu carcharu – mae pobol ddu chwe gwaith yn fwy tebygol o fynd i’r carchar na phobol â chroen gwyn.
Dywedodd yr arbenigwr yn ei adroddiad yn 2019 ei fod wedi datgelu “ystod eang o broblemau sydd angen sylw brys”.
‘Ysgytwol’
“Mae’r rhain yn ystadegau ysgytwol,” meddai Jane Hutt.
“Mae gyda ni broblem enfawr o fewn y system gyfiawnder yng Nghymru oherwydd diffyg data penodol yng Nghymru sy’n edrych ar bobol sydd â nodweddion gwarchodedig.”
Ychwanegodd ei bod hi wedi siarad â Chomisiynwyr Heddlu gan fynnu bod cyfiawnder yn ganolog i gynllun y Llywodraeth.