Ynysoedd y Solomon
Mae tswnami yn ne’r Môr Tawel wedi lladd o leiaf pedwar o bobol ac wedi distrywio amryw o gartrefi.

Roedd daeargryn oedd yn mesur 8 ar y raddfa Richter wedi taro gorllewin Ynysoedd y Solomon, gan greu dwy don pum troedfedd o uchder sydd wedi distrywio rhwng 70 ac 80 o gartrefi.

Mae nifer o drigolion wedi anelu am dir uchel ac mae Canolfan Rybuddio Tswnami’r Môr Tawel wedi cyhoeddi rhybuddion ar gyfer y rhanbarth.

Dywedodd comisiynydd heddlu Ynysoedd y Solomon, John Lansley, eu bod nhw’n “ymwybodol fod pedwar o bobol wedi eu lladd, ac fe allai fod mwy.”

Mae’r awdurdodau yn chwilio am gorff pysgotwr oedd mewn canŵ pan darodd y don gyntaf, gan lusgo’i gorff allan i’r môr.

Mae 200 o ynysoedd yn rhan o’r Solomon ac mae oddeutu 552,000 o bobol yn byw yno.

Mae’r ynysoedd yn gorwedd o fewn y ‘Cylch Tân’, ardal ddaearegol brysur ble mae 90% o ddaeargrynfeydd y byd yn digwydd.