Mae disgwyl i Fanc Brenhinol yr Alban (RBS) wynebu cyhuddiadau troseddol a dirwy o £500 miliwn heddiw am ei rôl yn y twyll yn ymwneud â chyfradd Libor.

Yn ôl pob tebyg fe fydd y banc yn cyhoeddi cytundeb gyda’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) a rheoleiddwyr yn America.

Credir bod RBS dan bwysau gan y Llywodraeth i dalu’r ddirwy o arian sydd yn y gronfa ar gyfer bonysau er mwyn sicrhau na fydd trethdalwyr yn dioddef. Ond mae adroddiad yn awgrymu bod disgwyl i fancwyr dderbyn bonysau gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer 2012. Mae cyfran o 81% o’r banc yn perthyn i’r wladwriaeth.