Rhodri Talfan Davies
Mae Cyfarwyddwr BBC Cymru wedi dweud fod “bwlch mawr” o hyd rhwng yr hyn mae Eos yn ei ofyn amdano a’r hyn mae’r BBC yn barod i’w gynnig.
Ar Radio Cymru y bore ma dywedodd Rhodri Talfan Davies ei fod eisiau dod i gytundeb gydag Eos heb fynd i dribiwnlys masnachol ond na fyddai’n “sioc” fod y ddwy ochr yn mynd i dribiwnlys ar ôl methu cytuno.
Mae BBC Cymru wedi dweud eu bod nhw’n barod i gyfrannu at gostau cyfreithiol “rhesymol” Eos mewn proses dribiwnlys a datgelodd Rhodri Talfan Davies fod y Gorfforaeth yn barod i dalu “hyd at £50,000.”
Dywedodd pennaeth BBC Cymru fod gan y drafodaeth gydag Eos oblygiadau i’r BBC gyfan, nid dim ond Cymru, am ei fod yn ymwneud â graddfa gwerth masnachol.
Byddai’n bosib cynnal y tribiwnlys yng Nghymru meddai, gan roi’r cyfle i gerddorion Eos gyflwyno gwerth diwylliannol eu cynnyrch.
Roedd Rhodri Talfan Davies wedi cydnabod y byddai mynd at dribiwnlys hawlfraint yn golygu fod y penderfyniad terfynol allan o ddwylo’r BBC ac Eos. Yn gynharach ar Radio Cymru dywedodd Dafydd Roberts o Eos y byddai’r corff yn croesawu tynnu’r mater allan o ddwylo’r BBC. Ond mae wedi mynegi ei siom yn ghylch y datblygiadau diweddaraf gan ddweud mai “sham oedd y trafodaethau i gyd.”
Mae Eos yn cynnal ail gyfarfod gyda’u haelodau nhw nos Wener, yng Nghaernarfon, yn dilyn cyfarfod neithiwr yng Nghaerdydd.
Nid yw Radio Cymru wedi medru chwarae tua 30,000 o ganeuon Cymraeg ers 1 Ionawr am fod anghydfod am daliadau i gerddorion.