Y bws ysgol yn Alabama
Yn yr Unol Daleithiau, mae bachgen 5 oed oedd wedi cael ei gipio o fws ysgol a’i ddal yn wystl mewn byncer dan ddaear, wedi cael ei achub gan yr heddlu.

Cafodd y dyn oedd wedi ei gipio, Jimmy Lee Dykes, 65, ei ladd yn ystod yr ymgyrch i achub y bachgen.

Dywedodd Steve Richardson o’r FBI yn Alabama bod y trafodaethau gyda Dykes wedi dirywio a’i fod wedi cael ei weld gyda gwn.

Wythnos yn ôl, roedd Dykes wedi cipio’r bachgen o fws ysgol yn Alabama gan saethu’r gyrrwr yn farw.