Chris Huhne yn gadael y llys ddoe
Fe fydd cyn-wraig Chris Huhne, Vicky Pryce,  yn sefyll ei phrawf heddiw ynglŷn â honiadau ei bod wedi cymryd ei bwyntiau am oryrru ar ei thrwydded yrru.

Mae’r cyn weinidog yn y Cabinet  yn wynebu dedfryd o garchar ar ôl iddo gyfaddef ei fod wedi dweud celwydd ynglŷn â phwy oedd yn gyrru’r car pan gafodd ei ddal yn goryrru ym mis Mawrth 2003.

Ar ôl dwy flynedd o wadu’r honiadau, fe newidiodd Chris Huhne ei ble ar ddechrau’r achos yn Llys y Goron Southwark ddoe, gan ymddiswyddo fel Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn Eastleigh.

Daeth yr honiadau i’r amlwg yn 2011 ar ôl i briodas Huhne a Pryce chwalu ar ôl 26 mlynedd pan gyfaddefodd ei fod yn cael perthynas gyda Carina Trimingham.

Mae’r economegydd Pryce, 60, eisoes wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac mae disgwyl iddi ddadlau bod ei chyn-wr wedi dwyn perswâd arni i gymryd ei bwyntiau.

Cafodd Huhne, 58, ei ryddhau ar fechnïaeth nes bydd yn cael ei ddedfrydu.

Fe fydd ei ymddiswyddiad yn arwain at isetholiad yn Eastleigh ac mae’r sedd yn cael ei dargedu gan y Ceidwadwyr. Mae disgwyl i’r ymgynghorydd busnes Maria Hutchings, 51, fod yn ymgeisydd y blaid yn Eastleigh.