Yr Arlywydd Karzai
Bydd y Prif Weinidog , David Cameron yn cynnal cinio yn Chequers heno ar gyfer Arlywydd Affganistan, Hamid Karzai ac Arlywydd Pacistan, Asi Al Zardari ar gychwyn trafodaethau i geisio hybu cydweithredu rhwng y ddwy wlad ar ôl i luoedd y cyngrheiriaid adael  Affganistan y flwyddyn nesaf.

Y cinio fydd y digwyddiad cyntaf cyn y trafod a’r negydu go iawn yn Llundain yfory.

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog bod y trafodaethau yn anfon neges glir i’r Taliban mai dyma’r amser i bawb fod yn rhan o broses heddychlon wleidyddol yn Affganistan.

“Mae Affganistan sefydlog er llês nid yn unig y trigolion ond hefyd eu cymdogion a’r DU,” meddai.

Yn ddiweddar, fe wnaeth llywodraeth Affganistan groesawu rhyddhau nifer ogarcharorion Taliban gan Bacistan ond mae nhw’n parhau i alw am ryddhau un o brif arweinwyr y Taliba, Mullah Baradar yn y gobaith y bydd hwnnw yn darbwyllo’r Taliban i drafod efo’r llywodraeth yn Kabul.