Mae lluoedd Mali wedi cipio Maes Awyr Kidal yng ngogledd y wlad oddi wrth eithafwyr Islamaidd.
Gallai hyn fod yn ergyd i’r eithafwyr, wrth iddyn nhw golli un o’r tri safle y gwnaethon nhw eu cipio’r llynedd.
Bellach, dydy’r eithafwyr ddim yn rheoli’r un o diriogaethau gogleddol y wlad.
Mae dinasoedd Timbuktu a Gao eisoes wedi cael eu hadfeddiannu gan awdurdodau Mali yn ystod y dyddiau diwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Byddin Ffrainc fod yr ymgyrch i gipio’r maes awyr yn Kidal yn parhau.
Mae byddin Ffrainc yn dal yn Kidal heddiw, ac wedi bod yn y wlad ers Ionawr 11.
Mae byddin yr Unol Daleithiau yn ystyried gosod dronau yng ngogledd orllewin Affrica yn eu hymdrechion i drechu’r eithafwyr.