Y tan mewn clwb nos ym Mrasil
Mae’r awdurdodau ym Mrasil wedi dweud mai mwg o dân gwyllt oedd wedi lladd mwy na 230 o bobl mewn clwb nos dros y penwythnos.

Mae cyfnod o 30 diwrnod o alaru wedi dechrau yn y wlad.

Bu farw’r myfyrwyr yn Santa Maria yn ne’r wlad pan ledodd mwg drwy glwb nos Kiss.

Cafodd llawer eu gwasgu i farwolaeth wrth i bobl ruthro allan o’r adeilad, a bu farw eraill wedi iddyn nhw anadlu mwg.

Un allanfa oedd gan yr adeilad, ac roedd mwy o bobl yn yr adeilad na’r uchafswm cyfreithlon.

Tân gwyllt

Mae yna le i gredu mai aelod o un o’r bandiau oedd yn perfformio oedd wedi cynnau’r tân gwyllt, a bod ewyn wedi taro’r to gan achosi i lawer dagu.

Hwn yw’r tân gwaethaf mewn clwb nos ers dros ddegawd.

Yn ôl adroddiadau, ceisiodd staff diogelwch y clwb atal pobl rhag gadael yr adeilad wrth i’r tân fynd ar wasgar.

Wrth i’r gwasanaethau brys gyrraedd, roedd cyrff o flaen y drysau, oedd yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw fynd i mewn i’r adeilad.

Mae’r band eisoes wedi cadarnhau eu bod nhw wedi defnyddio tân gwyllt yn ystod eu perfformiad.

Bu farw un aelod o’r band ar ôl mynd yn ôl i’r adeilad i achub ei accordion.

Cafodd y noson ei threfnu gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Ffederal Santa Maria.

Mae cyrff y rhai fu farw wedi cael eu cludo i neuadd yn y dref er mwyn i’r teuluoedd gael eu hadnabod yn ffurfiol.

Mae’r awdurdodau wedi dweud bod 233 o bobl wedi marw.

Dioddefodd 117 o bobl o effeithiau’r mwg, a chafodd nifer fach eu llosgi.

Dywedodd Arlywydd Brasil, Dilma Rousseff: “Mae’n drychineb i ni gyd.”

Hwn yw’r tân gwaethaf ym Mrasil ers 1961, pan gafodd 503 o bobl eu lladd mewn syrcas yn Rio de Janeiro.

Mae’r archwiliad i’r hyn achosodd y tân eisoes wedi dechrau.