Mae llanc 16 oed wedi marw ar ôl cael ei drywanu yn Pimlico yng nghanol Llundain, meddai Scotland Yard.

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Lupus ychydig cyn 7yh neithiwr yn dilyn adroddiadau bod llanc wedi cael ei drywanu.

Cafodd y bachgen ei gludo i ysbyty yn ne Llundain ond bu farw rai oriau’n ddiweddarach.

Mae’r heddlu bellach yn cynnal ymchwiliad i’w lofruddiaeth.