Barack Obama
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama wedi tyngu’r llw arlywyddol ar ddechrau ei ail dymor wrth y llyw.

Ymgasglodd cannoedd o filoedd o bobl yn Washington i wylio’r seremoni.

Hon oedd y 57fed seremoni o’r fath yn hanes yr Unol Daleithiau.

Mae’r Is-Arlywydd, Jo Biden hefyd wedi tyngu llw.

Tyngodd y ddau lw swyddogol yn y Tŷ Gwyn ddoe, ond doedd dim modd cynnal y seremoni gyhoeddus gan ei bod  ar ddydd Sul.

Yn ôl Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau, rhaid i’r Arlywydd dyngu’r llw yn swyddogol cyn Ionawr 20.

Yr Uwch Ustus John Roberts arweiniodd y seremoni.

Dywedodd yr Arlywydd Obama mai’r “cysyniad o genedl 200 mlwydd oed” ac nid lliw, hil na chrefydd sy’n cynnal ac yn clymu Americaniaid.

“Yr hyn sy’n ein gwneud ni’n Americaniaid yw ein bod yn glynu wrth syniadaeth.”

Ychwanegodd fod pob etholiad yn gyfle i “gadarnhau ein haddewid am ddemocratiaeth”.

Dywedodd: “Mae cynnal ein rhyddid unigol yn gofyn am weithgarwch torfol.”

Aeth yn ei flaen i nodi blaenoriaethau ei lywodraeth yn ystod y pedair blynedd nesaf, gan gynnwys yr economi, newid hinsawdd a thrychinebau naturiol.