David Cameron
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi mynegi ei “atgasedd a chondemniad” o’r ymosodiad terfysgol yn Algeria.

Dywedodd fod yr ymosodiad “fwy na thebyg wedi’i gynllunio ymlaen llaw” a bod angen dod o hyd i’r sawl sy’n gyfrifol.

Dywedodd fod Prydain yn “sefyll gyda phobl Algeria”.

Cafodd tri o Brydeinwyr eu lladd yn ystod yr ymosodiad ac chredir bod tri arall hefyd wedi eu lladd.

Yn ol awdurdodau Algeria roedd 37 o wystlon o dramor wedi cael eu lladd yn ystod pedwar diwrnod o ymladd.

Ychwanegodd David Cameron  fod tîm o arbenigwyr o Brydain ar eu ffordd i Algeria er mwyn dechrau ar broses o gymodi, ac mai “terfysgwyr, yn sicr, sy’n gyfrifol am yr ymosodiad hwn”.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband fod gan David Cameron a’r llywodraeth gefnogaeth lawn ei blaid.

Dywedodd ei bod yn “warthus bod pobl dda a diniwed wedi dioddef” a’i bod yn “hanfodol bwysig bod eu teuluoedd nhw’n derbyn yr holl gefnogaeth bosib”.

Rhybuddiodd David Cameron na ddylai Prydeinwyr deithio i Algeria nac i wledydd cyfagos megis Mali a Niger.

Ychwanegodd nad oes sicrwydd eto pwy yw’r terfysgwyr sy’n gyfrifol am yr ymosodiad.