Lance Armstrong
Dywed y beiciwr Lance Armstrong y dylai gael cyfle arall i gystadlu eto, er gwaethaf ei gyfaddefiad iddo gymryd cyffuriau ym mhob un o’i saith buddugolaeth Tour de France.

Yn ail ran ei gyfweliad teledu gyda’r holwraig Oprah Winfrey heddiw dywedodd ei fod yn haeddu cael ei gosbi, ond nad oedd “yn haeddu’r gosb eithaf”.

Ddoe, roedd yr Americanwr 41 oed wedi cyfaddef am y tro cyntaf iddo ddefnyddio amrywiaeth o gyffuriau gwella perfformiad a thrallwyso gwaed i dwyllo mewn cystadlaethau rhyngwladol.

Ond dywed Armstrong ei fod yn cwestiynu a oedd yn haeddu’r gwaharddiad oes o bob math o chwaraeon a dderbyniodd y llynedd, tra bod cyd-chwaraewyr iddo wedi cael gwaharddiadau am chwe mis ar ôl rhoi tystiolaethaeth  yn  ei erbyn.

Dywed hefyd yr hoffai gymryd rhan ym marathon Chicago pan fydd yn 50 oed.