Michael Laudrup - y gynghrair sydd bwysica'
Mae rheolwr Abertawe, Michael Laudrup wedi dweud ei fod yn canolbwyntio ar gêm yr Elyrch yn erbyn Stoke yfory, ac nid yw’n gadael i’r gêm Gwpan Capital One ddydd Mercher dynnu ei sylw.

Mae’r Elyrch yn croesawu tîm y Cymro Tony Pulis i’r Liberty yfory, gan obeithio am well canlyniad na’r un nos fercher yn erbyn Arsenal.

‘Y gynghrair sydd bwysica’

Ac mae Laudrup yn sicr mai ar y gynghrair, nid y cwpan, y mae ei chwaraewyr yn canolbwyntio.

“Mae gêm dydd Sadwrn yn bwysig iawn. Mae’n gêm gartref, sy’n golygu y byddan ni’n gobeithio ennill y tri phwynt ac agosau at y nod o 40 pwynt,” meddai Laudrup.

“R’yn ni ar lefel dda iawn ar hyn o bryd. Mae 16 o gêmau i fynd ac mae’n rhaid i ni barhau fel hyn am weddill y tymor.”

Mae Abertawe hefyd yn chwarae Chelsea yn ail gymal eu gêm yn y rownd gyn-derfynol yn y Gwpan Capital One ddydd Mercher.  Maen nhw’n mynd i mewn i’r gêm yn arwain o 2-0, wedi goliau gan Michu a Danny Graham yn y cymal cyntaf.

Ofn blino

Er bod Laudrup yn canolbwyntio ar yr Uwch Gynghrair, mae’n ymwybodol gall ei chwaraewyr flino erbyn wynebu Chelsea.  Ond, mae’n gobeithio y bydd y gêm fawr yn ddigon i roi hwb iddyn nhw yn y Liberty.

“Fydd y rheiny sy’n chwarae dydd Mercher, hyd yn oed os ydyn nhw wedi blino, ddim yn ei deimlo,” meddai.

Mae Abertawe yn chwarae Stoke am 3 o’r gloch yfory.