Malky Mackay
Mae clwb pêl-droed Caerdydd mewn trafodaethau i arwyddo’r blaenwr, Fraizer Campbell o Sunderland.

Y gred yw fod rheolwr Caerdydd, Malky Mackay, yn awyddus prynu Campbell, 25, cyn I’r clwb deithio i Dubai ddydd Sul.

Mae Mackay wedi cadarnhau ei fod wedi ceisio cysylltu â’r clwb o Loegr, ac mae sôn ei fod wedi cynnig £650,000 am Campbell, sydd wedi chwarae 58 o weithiau i Sunderland ers ymuno â nhw yn 2009.

Dechreuodd ei yrfa yn nhim ieuenctid Manchester United ac, yn dilyn sawl cyfnod ar fenthyg, symudodd i Sunderland am £3.5 miliwn.

Ers hynny, mae wedi cael anaf i’w benglin sydd wedi cyfyngu ar ei amser ar y cae.

Hudson yn croesawu

Dywedodd capten Caerdydd, Mark Hudson ei fod yn newyddion da i’r clwb.

“Dw i wedi chwarae yn ei erbyn, ac mae’n flaenwr da.  Mae’n newyddion da os y cawn ni Campbell, mae’n chwaraewr o safon uchel,” meddai.