Chwaraewyr Abertawe'n ymarfer (Llun: Jonathan de Guzman)
Mae’r tywydd garw yn effeithio ar fyd chwaraeon dros y penwythnos gyda nifer o ddigwyddiadau eisoes wedi eu canslo.

Ond mae chwaraewr pêl-droed Abertawe, Jonathan de Guzman, wedi rhoi hawl i Golwg360 gyhoeddi llun i ddangos bod yr Elyrch yn dal i baratoi ar gyfer eu gêm gartre’ yn erbyn Stoke City.

Mae gêm bêl-droed Wrecsam yn erbyn Lincoln yng nghyngrair y Blue Square yfory wedi ei gohirio.  Cafodd ymchwiliad o’r cae ei gynnal am 1.30 heddiw, a phenderfynodd y dyfarnwr nad oedd hi’n ddiogel i chwarae arno.

Fe gafodd y rasio yng Nghas-gwent ei ganslo heddiw ond mae disgwyl y bydd rhai o’r gêmau mawr yn mynd yn eu blaenau.

Mae’r rheiny’n cynnwys gêmau rygbi’r Scarlets a’r Gleision, gyda rhanbarth y brifddinas yn galw ar gefnogwyr i ymuno gyda staff Parc yr Arfau i glirio eira oddi ar y cae.  Bydd y Scarlets yn herio Clermont-Auvergne, a’r Gleision yn croesawu Sale.