Southampton yn cyhoeddi'r newyddion ar eu gwefan
Mae clwb pêl-droed Southampton wedi rhoi’r sac i’w rheolwr, Nigel Adkins, wedi dwy flynedd a hanner wrth y llyw.

Yr Archentwr, Mauricio Pochettino, fydd yn cymryd lle cyn reolwr a golwr Dinas Bangor a bydd yn cymryd y llyw ar gyfer gêm Southampton yn erbyn Everton ddydd Llun.

Daeth Adkins yn rheolwr ar Southampton yn 2010 gan ennill dyrchafiad ddau dymor yn olynol a chodi’r Seintiau o’r Gynghrair gyntaf i’r Uwch Gynghrair o fewn dau dymor.

Mae’n gadael y clwb yn y 15fed safle, wedi iddo ysbrydoli’r Seintiau yn erbyn Chelsea ddydd Mercher, a sicrhau pwynt gwerthfawr oddi cartref.

Ar ôl dechrau araf, roedd Southampton wedi dechrau cael canlyniadau da.

O Espanyol

Pochettino yw cyn-reolwr y clwb o Sbaen, Espanyol, ac mae’n ymuno gyda Southampton wedi iddo adael ei swydd ym mis Tachwedd.

Dywedodd Cadeirydd Southampton, Nicola Cortese: “Er ein bod ni yn cydnabod y gwaith y mae Nigel wedi’i wneud i’r clwb dros y blynyddoedd diwethaf, roedd angen newid er mwyn sicrhau datblygiad y clwb.”