Lance Armstrong
Mae’r cyflwynydd teledu Oprah Winfrey wedi cadarnhau bod Lance Armstrong wedi cyfaddef iddo ddefnyddio cyffuriau i wella ei berfformiad yn ystod ei chyfweliad gyda’r seiclwr ddoe.
Dywedodd bod Armstrong yn “agored” pan ofynnodd iddo am yr honiadau yn ei erbyn a’i fod wedi bod yn emosiynol drwy gydol y cyfweliad.
Fe gollodd Lance Armstrong 7 o’i deitlau Tour de France yn ddiweddar wedi i’r Asiantaeth Wrth Gyffuriau yn yr UDA gyflwyno adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth cyn-aelodau o’i dim. Roedd yn cyhuddo Armstrong o fod yn gyfrifol am gynllun cyffuriau soffistigedig ar gyfer ei dimau.
Mae Armstrong, 41, wedi gwadu’r cyhuddiadau ers blynyddoedd gan ymosod ar ei feirniaid. Ond ar ôl iddo golli ei deitlau a chael ei ollwng gan ei noddwyr, mae wedi newid ei agwedd.
“Byddai’n well i bobol wneud eu penderfyniadau eu hunain am y cyfweliad. Teimlais ei fod yn feddylgar, o ddifrif, ac wedi paratoi ei hun am y digwyddiad,” meddai Oprah.
Roedd disgwyl i’r cyfweliad gael ei ddarlledu nos Iau ond fe fydd bellach yn cael ei ddarlledu dros ddwy noson gan fod “cymaint o ddeunydd”, meddai Oprah Winfrey.
Nicole Cook
Ddoe, dywedodd y seiclwr o Gymru, Nicole Cooke, na all Armstrong wneud iawn am “ei orffennol llygredig.”
Cyhoeddodd Cooke ei hymddeoliad o’r gamp ddoe, ond defnyddiodd y cyfle i feirniadu Armstrong ac eraill: “Mae’n warthus, popeth mae o wedi ei wneud, y bwlio a phob dim arall,” meddai.