Mark Jones
Bydd un o hyfforddwyr y Sgarlets, Mark Jones yn ymuno â thîm hyfforddi Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bydd y cyn-asgellwr i’r Sgarlets a Chymru yn aelod o staff hyfforddi Rob Howley, gan weithio gyda’r cefnwyr drwy gydol y Bencampwriaeth a hefyd ar daith Cymru i Siapan dros yr haf.

Chwaraeodd Jones 47 o weithiau dros Gymru, ac mae wedi bod yn hyfforddi’r Sgarlets ers ei ymddeoliad yn 2010.

“Mae’n anrhydedd mawr cael galwad gan Gymru i weithio gyda nhw dros Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, ac rydw i’n edrych ymlaen at gael cyfle i wella fy sgiliau fel hyfforddwr,” meddai Jones.

“Bydd yn gyfle i mi gynnig syniadau newydd a chael profiadau y bydd yn gwneud lles i fy ngwaith gyda’r Sgarlets hefyd.”

Dywedodd Rob Howley bod Jones yn ychwanegiad pwysig i’r garfan.

“Mae Mark wedi chwarae ar y lefel uchaf ac wedi datblygu ei sgiliau hyfforddi gyda’r Sgarlets” meddai’r prif hyfforddwr dros dro.

“Mae’n hyfforddwr ymarferol ac mae ganddo ddealltwriaeth o sut mae’r amgylchedd yma yn gweithio, sydd yn bwysig wrth baratoi at y Bencampwriaeth,” ychwanegodd.