Mae Cymdeithas Bêl-Droed Yr Alban wedi cyhoeddi mai Gordon Strachan yw hyfforddwr newydd y tîm cenedlaethol heddiw.
Mae Strachan yn gyn-chwaraewr a rheolwr, ac wedi profi pêl-droed ar y lefel uchaf dros ei yrfa. Chwaraeodd 635 o gemau gan sgorio 138 o goliau yn ei amser gyda chlybiau fel Manchester United a Leeds United. Chwaraeodd 50 o weithiau dros Yr Alban, gan gynnwys mewn dwy gystadleuaeth Cwpan y Byd, yn 1982 ac 1986.
Mae Strachan wedi rheoli Coventry a Southampton, ac wedi profi cyfnod llwyddiannus iawn yn hyfforddi Celtic. Ei swydd ddiwethaf oedd rheoli Middlesborough, ond fe adawodd wedi perfformiadau gwael gan y tîm yn 2010.
Mae Strachan yn olynu Craig Levein a bydd ei gytundeb yn rhedeg dros weddill gemau Cwpan y Byd 2014, a’r ymgyrch i ennill lle ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd 2016. Bydd ei gêm gyntaf yn erbyn Estonia ar 6 Chwefror.