Mae cyn-enillydd y teitl Dyn Cryfaf y Byd, Mariusz Pudzianowski, wedi arwyddo i chwarae rygbi i dîm Amman United, yn ôl adroddiadau.
Daw’r newyddion wedi i gyn-asgellwr Cymru, Shane Williams, drydar ei longyfarchiadau i’w glwb lleol a Mariusz Pudzianowski wythnos ddiwethaf. Mae’r clwb eisoes wedi cadarnhau’r newyddion ond mae na ddyfalu mai joc ydy’r cyfan.
Enillodd Pudzianowski, sydd o wlad Pwyl, y gystadleuaeth Dyn Cryfaf y Byd bum gwaith cyn troi at ymladd MMA yn 2009, lle mae wedi ennill 5 gornest allan o 8. Nawr, mae wedi dechrau chwarae rygbi, a bydd yn chwarae yn rhanbarth gorllewinol y drydedd gynghrair Undeb Rygbi Cymru.
Nid yw’r cawr Pudzianowski, sy’n 6’1” ac wedi pwyso hyd at 145kg wrth gystadlu, wedi ymateb i’r newyddion eto.