Hosni Mubarak
Mae cyn-Arlywydd yr Aifft, Hosni Mubarak wedi ennill ei apêl yn erbyn y ddedfryd o garchar am oes gafodd wedi’r gwrthryfel ddwy flynedd yn ôl yno.

Bydd yn wynebu achos llys arall ynglyn â chyhuddiadau ei fod wedi peidio gwarchod cannoeddd rhag cael eu llofruddio yn ystod y terfysg yn y wlad.

Bydd Mubarak, sy’n  84 oed, yn aros yn y carchar beth bynnag tra bydd yr achos newydd yn cael ei baratoi gan fod ymchwiliad arall yn ei erbyn ar y gweill eisoes.

Fe wnaeth y barnwr yn llys apêl hefyd wyrdroi rheithfarn o ddi-euog ar Mubarak, ei ddau fab a un o gyd-weithwyr yr Arlywydd ar gyhuddiadau o lwgrwobrwyo.

Yn ôl asiantaeth y wasg, PA, bydd achos newydd yn erbyn Mubarak yn boblogaiddd iawn yn yr Aifft gan fod llawer yn flin ei fod wedi ei gael yn euog o fethu atal y lladd yn hytrach na gorchymun gweithredu yn erbyn y protestwyr.