Mae nifer y plant sy’n cael eu cludo o le i le o fewn Prydain i’w camdrin gan bedolffiliaid wedi cynyddu yn arw yn ôl Prif Weithredwr un o’r elusennau plant mwyaf, Barnado’s.

Dywed Anne Marie Carrie bod cludo plant o amgylch Prydain yn ffordd soffistigedig iawn o’u ecsbloetio yn rhywiol ac ychwanegodd bod hyn yn digwydd trwy rwydweithiau o droseddwyr.

Mae Barnado’s yn gweithio yn agos efo plant sy’n cael eu camdrin yn rhywiol yn rheolaidd ac mae eu hystadegau yn dangos bod yna gynnydd o 84% wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Bellach mae un o bob pedwar plentyn yn y DU sy’n dod i sylw Barnado’s wedi cael ei gludo o fan i fan i ddibenion rhywiol. Un o bob chwech oedd y ffigwr yn 2011.

Ffigyrau gwaeth yng Nghymru

Mae’r ffigyrau hyd yn oed yn waeth yng Nghymru. Yma, mae un o bob dau sy’n dod i sylw’r elsuen wedi cael eu camdrin fel hyn.

Mae nifer y  plant yng Nghymru sydd wedi cael cymorth Barnado’s wedi codi o 22 i 83 yn ystod yr un cyfnod.

Meddai Ms Carrie “Os ydyn ni i achub plant rhag diodde am flynyddoedd mae’n rhaid i’r awdurdodau wneud llawer mwy i adnabod y rhai sy’n diodde oherwydd eu bod wedi cael eu ecsploetio yn rhywiol o fewn gwledydd Prydain ac atal hyn yn gynnar.”

Dywed y Swyddfa Gartref eu bod wedi gwneud llawer o gynydd yn y frwydr yn erbyn y math yma o drosedd ac y bydd yr Asiantaeth Drosedd Genedlaethol yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud eisoes y flwyddyn neaf i dargedu gangiau troseddol yn y maes.