Ynys Jamaica
Cafodd merch 8 oed o Balham, de Llundain ei saethu’n farw yn Jamaica nos Wener.
Roedd Imani Green ar ei gwyliau ac yng nghaffi ei chefnder yn nhref Duncans pan gerddodd dyn i mewn a chychwyn dadl.
Aeth y ddadl yn ffyrnig ac yn ôl tystion fe ddechreuodd y dyn saethu gan daro Imani ddwywaith, gan gynnwys unwaith yn ei phen.
Cafodd tri arall eu hanafu ond mae nhw mewn cyflwr cyfforddus yn yr ysbyty.
Mae’r heddlu ar yr ynys yn amau bod y saethu wedi digwydd er mwyn dial am ymosodiad diweddar efo gynnau yn yr ardal.
Dywedodd chwaer Imani, Janella Parmer eu bod wedi clywed swn saethu ac wedi rhedeg allan yn gwaeddi am ei chwaer.
“Mi wnês i ei chodi oddi ar y llawr a sywleddoli ei bod yn dal i anadlu. Mi wnês i stopio car ac fe aethon ni i’r ysbyty. Mae’r gweddill yn hanes,” meddai.
Mae’r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau bod swyddogion y Conswl yn Jamaica yn rhoi cymorth i’r teulu sydd wedi bod ar yr ynys dros y gyfnod y flwyddyn newydd.