Mae cyrch gan fyddin commando Ffrainc i drio achub un o’u hasiantau oedd wedi cael eu herwgipio a’i ddal yn wystl ers tair blynedd, wedi diweddu’n waedlyd.
Mae un milwr wedi ei ladd, ac mae’r asiant yr oedden nhw’n ceisio ei ryddhau, hefyd yn farw.
Roedd yr adroddiadau cynta’ ynglyn a’r cyrch yn rhai cymysglyd iawn, gyda’r ddwy ochr yn sbinio storis oedd yn gwrth-ddweud ei gilydd.
Fe gafodd yr asiant ei ddal ar Orffennaf 14, 2009, a’r tro diwetha’ iddo gael ei weld yn fyw oedd ar fideo ym mis Hydref y llynedd, yn pledio ar arlywydd Ffrainc i’w achub.
Ond roedd hi’n glir o’r cychwyn y byddai unrhyw gais i’w ryddhau yn beryglus tu hwnt, gan fod y grwp Islamaidd al-Shabab yn gweithredu yng nghanol yr anialwch.