Mae cariad dynes 23 mlwydd oed o Rwsia a ganfuwyd yn farw yn ei fflat, wedi ymddangos gerbron llys, wedi’i gyhuddo o’i lladd hi.
Mae Felipe Lopes, 27, wedi’i gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn ymddangos nesa’ yn yr Old Bailey ddydd Mawrth.
Fe gafodd Lopes ei arestio ar y stryd yn ardal Farnborough o Bromley fore Mercher diwetha’, wedi i’r heddlu ddod o hyd i gorff Anastasia Voykina mewn ty yn Streatham tua dau o’r gloch y bore, ddydd Llun diwetha’.
Mae prawf post-mortem wedi nodi mai achos ei marwolaeth oedd anafiadau amrywiol i’w hwyneb, ei phen a’i gwddw.