Fe fydd ail seremoni ordeinio’r Arlywydd Barack Obama yn dipyn llai o achlysur na’r seremoni gynta’ honno yn 2009.

Mae trefnwyr yn rhagweld mai rhwng 600,000 ac 800,000 o bobol fydd yn dod i ddinas Washington DC eleni, o gymharu ag 1.8 miliwn bedair blynedd yn ôl.

Ond, wedi dweud hynny, mae tocynnau rhatach ar gyfer y cyhoedd – gwerth $60 – wedi gwerthu allan, ac mae nifer o enwau mawr yn perfformio yn ystod y noson, yn cynnwys y cerddorion Beyonce, Katy Perry ac Usher.