Mae miloedd o bobol gwledydd Prydain wedi cael eu twyllo gan sgam sydd wedi cael ei rhedeg o ganolfan alw yn India ac ar y we.
Mae ymchwilwyr yn rhagweld fod hyd at 60,000 o bobol wedi llyncu’r twyll – gyda’r nifer mwya’ erioed i daro gwledydd Prydain o dramor.
Ar ei waetha’, roedd yna 1,000 o bobol a oedd yn chwilio am fenthyciadau, yn derbyn galwad gan ganolfan alw yn Delhi Newydd. Weithiau, roedd 100 ohonyn nhw, bob dydd, yn derbyn cynigion ac yn fodlon talu £100 o “ffi prosesu” dros y ffôn.
“Rydan ni wedi cydweithio gyda’r awdurdodau yn India, ac maen nhw wedi arestio pobol yn India,” meddai llefarydd ar ran yr asiantaeth Brydeinig, SOCA.
Mae heddlu India yn credu fod cymaint â £10m wedi ei dderbyn trwy dwyll, ar draul pobol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban oedd yn chwilio am gymorth ariannol.