Mae 115 o bobol wedi cael eu lladd mewn cyfres o ffrwydradau ym Mhacistan wrth i un garfan grefyddol ymosod ar y llall.

Bu farw 81 mewn dau ffrwydrad mewn neuadd snwcer lawn yn ninas Quetta, yn ne-orllewin Pacistan, ble mae canran uchel o Foslemiaid Shia yn byw.

Mae’r gymuned Shia yn lleiafrif ym Mhacistan i gyd ac mae grŵp sy’n perthyn i’r gymuned Sunni wedi cymryd cyfrifoldeb  am yr ymosodiad.

Hunan-fomiwr

Cafodd hunan-fomiwr ei anfon i’r neuadd snwcer, oedd dan ei sang ar y pryd, a chafodd bom car ei ffrwydro bum munud yn ddiweddarach.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-Moon wedi condemnio’r ymosodiadau.

Mae sawl ymosodiad sectyddol wedi digwydd yn ddiweddar yn nhalaith Baluchistan, a’i phrifddinas Quetta, yn ne-orllewin Pacistan. Mae canran uchel o Foslemiaid Shia yn yr ardal, a mae llawer ohonyn nhw’n hanu o lwyth yr Hazara yn Affganistan.