Vladimir Putin - yn cyfarfod Depardieu heno
Mae’r actor Ffrengig, Gerard Depardieu, wedi hedfan i Sochi yn Rwsia, ble mae disgwyl iddo gyfarfod â’r Arlywydd Vladimir Putin a derbyn pasbort Rwsiaidd.

Fe ddaeth cadarnhad gan Putin ddydd Iau y byddai’r actor yn cael ei dderbyn yn ddinesydd Rwsiaidd.

Mae hyn wedi achosi sgandal fawr yn Ffrainc, lle mae Depardieu ymhlith nifer o enwogion sy’n brwydro bwriadau’r llywodraeth i godi trethi o 75% ar bobol gyfoethog iawn.

Mae llefarydd ar ran Vladimir Putin wedi cadarnhau fod Gerard Depardieu wedi cyrraedd Sochi, “ac nad ydi hi’n amhosib y bydd yn erbyn pasbort Rwsiaidd pan fydd yn cyfarfod Mr Putin” heno.