Mae teiffŵn grymus yn Ynysoedd y Philipinau wedi lladd tua 350 o bobl ac mae 400 o rai eraill yn dal ar goll.

Cafwyd hyd i ragor o gyrff yn nhaleithiau Compostela Valley a Davao Oriental, a chwech o ardaloedd eraill gafodd eu difrodi yn y storm ddydd Mawrth.

Bu farw 200 o bobl yn Compostela Valley, gan gynnwys 78 o drigolion y pentref ynghyd a milwyr ar ôl i lifogydd ddifrodi dwy ganolfan brys a gwersyll milwrol.

Yn Davao Oriental cafodd 115 o bobl eu lladd gan Teiffŵn Bopha, sydd wedi dinistrio cannoedd o gartrefi.

Mae’r Groes Goch wedi gwneud apêl am £3 miliwn i helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y teiffŵn.