Banc Lloegr
Mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi heddiw y bydd cyfraddau llog yn aros yn 0.5%.
Roedd y Pwyllgor Polisi Ariannol (MPC) wedi penderfynu peidio â chyflwyno rhagor o fesurau i helpu’r economi er gwaetha’r rhagolygon gwael yn Natganiad yr Hydref y Canghellor ddoe.
Fe gyhoeddodd George Osborne ddoe y byddai’r cyfnod o galedi yn parhau tan 2018 wrth i dyfiant yr economi wanhau a’r diffyg gynyddu.
Yn ôl rhagolygon diweddaraf y Swyddfa Gyfrifoldeb Cyllidol mae disgwyl i’r economi grebachu 0.1% eleni o’i gymharu â rhagolygon blaenorol o dwf o 0.8%.
Ym mis Tachwedd roedd yr MPC wedi ystyried gostwng cyfraddau llog o 0.5% i 0.25% ond mae hynny’n annhebygol erbyn hyn.