Mae cannoedd yn rhagor o weithwyr yn ffatrïoedd Remploy yn wynebu colli eu swyddi o dan gynlluniau newydd i’w cau, cyhoeddodd y Llywodraeth heddiw.

Mae 875 o weithwyr, gan gynnwys 682 o bobl anabl, wedi clywed y byddan nhw’n wynebu diswyddiadau gorfodol.

Yn eu plith mae dwy ffatri Remploy yn Y Porth yn y Rhondda a Chastell-nedd, lle mae 140 o bobl yn gweithio.

Mae’r Llywodraeth yn dadlau y gallai’r arian ar gyfer gwasanaethau cyflogaeth i bobl anabl gael ei wario’n fwy effeithiol.

Mae 34 o ffatrïoedd wedi cau ers cyhoeddiad y Llywodraeth yn gynharach eleni, ac mae dyfodol 18 o safleoedd eraill yn ansicr.

Fe fydd y Llywodraeth nawr yn gwahodd ceisiadau gan gyrff eraill i gymryd rheolaeth o’r ffatrïoedd sy’n weddill.

Dim ond tri safle sydd ar ôl yng Nghymru, sef Castell nedd, Y Porth yn y Rhondda a Phen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Phil Davies o undeb y GMB y byddai’r newydd yn ergyd fawr i weithwyr anabl Remploy a bod y cyhoeddiad heddiw  “yn mynd yn groes i ddatganiad y Canghellor ddoe y byddai’r Llywodraeth yn gofalu am bobl fregus ein cymdeithas.”