Mae llai nag un ymhob tair mil o geisiadau cynllunio yn cael eu hasesu am eu heffaith ar yr iaith Gymraeg yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

O’r 25 awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru, dim ond tri sydd wedi cynnal asesiad effaith datblygiadau ar y Gymraeg dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf.

Ni chynhaliwyd yr un asesiad effaith iaith gan gynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion na Chonwy rhwng Ebrill 2010 ac Ebrill 2012 yn ôl eu hymatebion i gais rhyddid gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Daw’r newyddion ar drothwy cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011 ar Ragfyr 11 a fydd yn dangos faint o siaradwyr Cymraeg sydd ym mhob sir yng Nghymru.

Y system yn jôc

Dywedodd Cen Llwyd, Is-gadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’n ymddangos fel bod y system yn bach o jôc. Beth yw diben canllawiau’r Llywodraeth os nad ydynt yn cael eu gweithredu?”

Mewn ymateb i’r grŵp pwyso, dywedodd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog “…nad ydym wedi derbyn unrhyw asesiadau iaith o’r fath yn y naill gyfnod na’r llall. Beth bynnag, ni fyddai hynny’n ffactor wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.”

Cwestiynau pellach

Dywedodd nifer o gynghorau wrth Gymdeithas Yr Iaith mai datblygwyr neu’r ymgeiswyr fyddai’n ariannu neu gynnal yr asesiad effaith sy’n codi cwestiynau pellach yn ôl Cadeirydd y Gymdeithas, Bethan Williams.

“Os mai’r datblygwyr sy’n ariannu neu gynnal yr asesiadau effaith iaith, i ba raddau ydy’r cyhoedd a’r rhai sy’n penderfynu ar y ceisiadau yn gallu dibynnu arnynt?”

Ychwanegodd bod “cwestiynau mawr i’w gofyn am yr holl system a blaenoriaethau’r Llywodraeth yn ganolog ac yn lleol.”